Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) (Estyn i’r Swistir a Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2024

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:             Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn ofynnol cael darpariaeth sy’n cadarnhau rhychwant a chymhwysiad y Rheoliadau. Mae pwerau galluogi Gweinidogion Cymru yn Neddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 wedi eu cyfyngu, yn rhinwedd y diffiniad o “appropriate national authority” yn adran 16(2), i wneud darpariaeth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, nid ydym o’r farn ei bod yn ofynnol cael darpariaeth ynghylch rhychwant tiriogaethol a chymhwysiad. Mae’r Rheoliadau hyn yn dilyn yr un dull yn hyn o beth â Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023.